Affricaneriaid

Grŵp ethnig Germanaidd o dras Iseldiraidd yn bennaf yw'r Affricaneriaid sydd yn frodorol i Dde Affrica ac yn siarad yr iaith Affricaneg. Maent yn disgyn o'r Boeriaid, ffermwyr a ymsefydlodd yn Nhrefedigaeth y Penrhyn yn ail hanner yr 17g.

Sefydlwyd y wladfa barhaol gyntaf gan y Vereenigde Oost-Indische Compagnie yn neheudir Affrica ym 1652, ar Benrhyn Gobaith Da, dan arweiniad Jan van Riebeeck. Anogwyd i Iseldirwyr ac Ewropeaid eraill ymfudo i'r wladfa, ac erbyn 1707 roedd 1,779 o bobl yno. Mae trwch y llinach Affricaneraidd yn disgyn o'r boblogaeth hon.[1] Ychwanegwyd at y niferoedd hefyd gan Hiwgenotiaid a ffoes o Ffrainc i Dde Affrica, a chan setlwyr Almaenig.

  1. (Saesneg) Boer (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Tachwedd 2021.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search